Mae Cyngor Sir Ceredigion eisiau sicrhau bod busnesau, cyflogwyr a gweithwyr yng Ngheredigion yn cael mynediad at y wybodaeth, y cyngor a'r gefnogaeth ddiweddaraf i'w helpu i addasu ac adfer o bandemig Coronafeirws.

Rydym am weithio'n adeiladol ac yn bragmatig gyda'n busnesau a'n cymunedau yng Ngheredigion i sicrhau ein bod yn cefnogi ein gilydd yn ddiogel trwy'r cyfnod nesaf - gan gynnal ffocws cryf ar iechyd y cyhoedd ochr yn ochr â chefnogi bywoliaethau.

Bydd ailagor ein heconomi yn ddiogel yn gofyn am bartneriaeth gref rhwng y Cyngor a'r gymuned fusnes leol, wedi ei seilio ar ddealltwriaeth gref o'r ffactorau lleol a fydd yn effeithio ar sut yr ydym yn dod trwy'r pandemig hwn gyda'n gilydd.

Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru'n rheolaidd gydag unrhyw wybodaeth ychwanegol a dderbyniwn. Rhowch nod tudalen arno, neu dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i dderbyn diweddariadau.

Cynnwys y dudalen:

  • Rheoleiddio a Chyfreithiol: deddfwriaeth a rheoliadau
  • Canllawiau a Chefnogaeth: gwybodaeth a chymorth 
  • Cymorth Ariannol: cefnogaeth i helpu'ch busnes i addasu ac adfer
  • Cefnogaeth Cyflogaeth a Gyrfa
  • Cyngor a Chefnogaeth Bellach

Rheoleiddio a Chyfreithiol

Mae'r adran hon yn amlinellu'r rheoliadau diffiniol y bydd angen i bob busnes eu hystyried mewn unrhyw gynlluniau i ailagor.

Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn gweithredu Cam 3: Addasu a Gwydnwch Tymor Hir ei ymateb Coronafeirws.

Mae gan Cyngor Sir Ceredigion weledigaeth glir y gall pob unigolyn, busnes a gwasanaeth ddeall a chytuno arni ar gyfer y cam addasu er mwyn sicrhau bod Ceredigion yn llwyddo nid yn unig i leihau marwolaethau a ragwelir trwy'r copa cyntaf ond yn bwysicach fyth ar gyfer unrhyw gopaon a ragwelir yn y dyfodol.

Pwrpas y trydydd cam fydd sefydlu strategaethau a fydd yn nodi arferion gwaith newydd a all barhau hyd at ddiwedd yr achosion o COVID-19.

Rydym yn gofyn i gymuned fusnes Ceredigion weithio’n adeiladol gyda ni, gyda chamau gweithredu penodol i Fusnesau eu hystyried yn ystod y cyfnod Cynhwysiant, Ynysu a Dileu. Amlinellir y rhain ar dudalen 6 y ddogfen:

http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19/ceredigion-achosion-or-pandemig-covid-19/

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnal adolygiadau rheolaidd o sefyllfa'r coronafeirws yng Nghymru.

I ddarllen y canllawiau diweddaraf, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Canllawiau a Chefnogaeth

Mae'r adran hon yn amlinellu'r arweiniad a'r gefnogaeth sydd ar gael i helpu.

Gall defnyddwyr ap Covid-19 y GIG sganio (mewngofnodi) wrth iddynt fynd i leoliad. Os bydd pobl a ymwelodd â'r lleoliad yn profi'n bositif am coronafeirws, gellir anfon rhybudd at ddefnyddwyr eraill yr ap a oedd yno ar yr un pryd.

Ni fydd hysbysiad yr ap yn cyfeirio at enw eich lleoliad, dim ond rhoi gwybod i ddefnyddwyr yr ap y gallent fod wedi dod i gysylltiad â'r coronafeirws. Rhaid i safleoedd y mae'n ofynnol iddynt gadw cofnodion ynghylch staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr: profi, olrhain, diogelu barhau i wneud hynny, gan gynnwys pobl sy'n mewngofnodi drwy'r ap.

Cliciwch yma i gael posteri a chodau QR i'w harddangos yn eich safleoedd.

Côd QR y GIG ar gyfer eich safle

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i greu côd QR i’w arddangos yn eich lleoliad.
Gofynnwch i ymwelwyr sganio’r cod QR pan fyddant yn cyrraedd, gan ddefnyddio ap Covid-19 y GIG. 
Dylech greu ac arddangos côd QR os ydych yn:

  • fusnes, addoldy neu sefydliad cymunedol gyda lleoliad corfforol sy’n agored i’r cyhoedd
  • digwyddiad sy’n cael ei gynnal mewn lleoliad corfforol

Os oes gennych fwy nag un lleoliad, mae angen i chi greu côd QR ar wahân ar gyfer pob lleoliad. Gallwch ychwanegu sawl lleoliad yn y gwasanaeth.

Bydd angen i fusnesau ystyried ystod o fesurau i wneud eu gweithleoedd / amgylcheddau masnachu yn ddiogel (Covid-secure).

Er nad yw Cyngor Sir Ceredigion mewn sefyllfa i gynghori ar fusnesau unigol - mae yna ystod o ganllawiau i'ch helpu chi:

Er mwyn helpu busnesau yng Ngheredigion i ddod o hyd i ddarpariaeth addas o wasanaethau neu gynhyrchion i helpu i ailagor yn ddiogel, mae'r Cyngor yn llunio cyfeirlyfr agored o fusnesau.

Ymwadiad: bwriad y rhestr yn unig yw bod yn gymorth addysgiadol i gynorthwyo busnesau i ddod o hyd i gyflenwyr. Nid yw'r Cyngor yn cymeradwyo nac yn hyrwyddo unrhyw fusnes. (Byddwch yn gryno yn eich manylion a chadwch y disgrifiad o'r cynnyrch a'r gwasanaethau i uchafswm o 20 gair)

NODER: Os ydych yn fusnes sydd yn dymuno cynnig gwasanaethau i fusnesau yng Ngheredigion i gwrdd a gofynion y Llywodraeth i fod yn covid-ddiogel, ebostiwch eich manylion perthnasol fel yn y PDF uchod i cynnalycardi@ceredigion.gov.uk

Gwybodaeth pum cam ar gyfer gwell cysylltiad i'w ddarllen yma: 5 Cam ar gyfer gwell cysylltiad.

Mae cefnogaeth ar gael i helpu busnesau sy'n cynhyrchu cynhyrchion ym mhob sector trwy eu hadferiad. Bydd SMARTInnovation yn darparu cymorth am ddim i gynllunio a gweithredu newidiadau i ymgorffori mesurau rhesymol sy'n sicrhau arferion gweithio diogel sy'n cydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau Llywodraeth Cymru yn y gweithle.

I siarad ag ymgynghorydd, e-bostiwch: SMARTInnovation@gov.wales.

Cymorth Ariannol

Erbyn hyn dim ond y prif lwybrau cymorth yr ydym wedi'u cynnwys yn yr adran hon.

Mae cymorth ariannol yn cael ei adolygu'n barhaus felly parhewch i wirio'r dudalen hon a'r cyfryngau cymdeithasol am unrhyw ddiweddariadau. Mae'r holl gyngor a gwybodaeth ddiweddaraf am y gefnogaeth sydd ar gael i fusnes i'w gweld ar wefan Busnes Cymru, neu trwy gysylltu â'u llinell gymorth ar 03000 6 03000.

Atgoffir busnesau yng Ngheredigion fod y Cyngor yn parhau i gynnig ystod o gynlluniau ariannol i helpu busnesau i ehangu a thyfu. Gellir dod o hyd i'r rhain yn adran Ariannu a Grantiau ar wefan y Cyngor.

Mae Llywodraeth Cymru i wedi rhoi rhaglen o gymorth cyflogaeth a sgiliau ar waith i helpu pobl i ddychwelyd i’r gwaith.     

Mae rhan o’r rhaglen hon yn cynnwys cefnogaeth ychwanegol i unigolion sy’n ystyried bod yn hunangyflogedig. Yn ogystal â’r gwasanaeth cychwyn busnes presennol, mae grant ar gael i gefnogi unigolion di-waith sy’n wynebu mwy o rwystrau economaidd wrth ddechrau busnes. Bydd y grant dewisol hwn yn helpu hyd at 600 o unigolion i ddod yn hunangyflogedig neu i ddechrau busnes rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Mawrth 2021.

Am fanylion pellach gweler gwefan Busnes Cymru.

Ardrethi Annonestig – Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Hghymru – 2022/23

Nod y cynllun yw darparu cymorth i eiddo cymwys sydd wedi’i feddiannu drwy gynnig 50% o ostyngiad ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo o’r fath. Bydd y cynllun ar gael i bob busnes cymwys, fodd bynnag bydd uchafswm i swm y rhyddhad y caiff busnesau ei hawlio ar draws Cymru. Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar draws yr holl eiddo sy’n cael eu defnyddio gan yr un busnes. Mae angen i bob busnes ddatgan nad yw swm y rhyddhad y maent yn gwneud cais amdano ar draws Cymru yn fwy na’r uchafswm wrth wneud cais i awdurdodau lleol unigol.

Wefan:- Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru – 2022-23 | Busnes Cymru (gov.wales)

Yng Nghymru, gallwch wneud ad-daliad drwy gadarnhau eich bwriad yn ysgrifenedig drwy anfon at: sharedservicehelpdesk@gov.wales

Dylai’r neges gynnwys:

  • Gwerth y taliad y bwriadwch ei wneud.
  • Dyddiad y taliad y bwriadwch ei wneud. Caniatewch dri diwrnod o rybudd.

Cewch gadarnhad oddi wrth Ganolfan Cydwasanaethau Cofforaethol Llywodraeth Cymru fod yr hysbysiad wedi’i dderbyn, ynghyd â manylion y cyfrif banc er mwyn ichi dalu i mewn iddo.

Mae’r cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol yn cynorthwyo gweithwyr gofal nad ydynt yn derbyn dim heblaw tâl salwch statudol pan fyddant yn absennol neu’r sawl nad ydynt yn gymwys ar gyfer Tâl Salwch Statudol.  

Mae’n darparu arian er mwyn caniatáu i gyflogwyr dalu cyflog llawn i weithwyr cymwys os na fedrant weithio oherwydd COVID-19. 

Mae hyn yn diddymu’r anfantais ariannol a ddaw i weithwyr gofal yn sgil bod yn absennol o’r gwaith.  Bydd yn gymorth i ddiogelu ein dinasyddion mwyaf bregus.   Diben y gronfa yw rheoli haint. 

Mae’r cynllun yn weithredol rhwng 1 Tachwedd 2020 a 30 Mehefin 2022. 

Er mwyn cael gwybodaeth bellach ynghylch pwy sy’n gymwys a sut mae cael mynediad i’r cynllun, dilynwch y ddolen ganlynol. Cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol ar gyfer Gweithwyr Gofal.

Cefnogaeth Cyflogaeth a Gyrfa

Os yw Coronafeirws neu ei effaith ar yr economi wedi effeithio ar eich cyflogaeth, mae ystod eang o gefnogaeth ar gael. Mae'r adran yma’n rhoi manylion am gymorth posibl sydd ar gael i chi.

Mae'r tudalennau hyn yn darparu gwybodaeth am y newidiadau y mae'r llywodraeth wedi'u cyflwyno i gefnogi pobl sydd eisoes yn hawlio budd-daliadau, sydd angen hawlio budd-daliadau, neu sydd mewn perygl o golli eu swydd o ganlyniad i coronafeirws.

Ewch i wefan Adran Gwaith a Phensiynau i gael mwy o wybodaeth.

Darparu adnoddau i alluogi chwilwyr gwaith i ddod o hyd i waith. Maent yn cynnig gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddi ac yn gweinyddu hawliadau am fudd-daliadau fel Cymorth Incwm, Budd Analluogrwydd, a Lwfans Ceisio Gwaith.

Ewch i wefan y Ganolfan Swyddi a Mwy (Saesneg yn unig) i gael mwy o wybodaeth.

Gall Cymru’n Gweithio eich helpu chi i gael swydd, uwch-sgiliau trwy gyrsiau a hyfforddiant, ac i ddod o hyd i gefnogaeth a chyfleoedd cyllido addas.

Ewch i wefan Cymru’n Gweithio i gael mwy o wybodaeth.

Mae Cymunedau ar Waith yn brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a ddarperir gan Gyngor Sir Ceredigion sy'n cefnogi unigolion sydd mewn perygl neu mewn perygl o dlodi, 16 oed neu'n hŷn, ledled Ceredigion a ledled Cymru. Gall cyfranogwyr fod yn profi tlodi mewn gwaith, diweithdra, yn byw ar isafswm cyflog neu'n ei chael hi'n anodd talu treuliau misol sylfaenol ar gontractau sero awr achlysurol.

Ewch i'n tudalen Cymunedau ar gyfer Gwaith a Mwy i gael mwy o wybodaeth.

Gyrfa Cymru gallent eich helpu i gynllunio'ch gyrfa, paratoi i gael swydd, a dod o hyd i'r prentisiaethau, cyrsiau a hyfforddiant cywir a gwneud cais amdanynt.

Ewch i wefan Gyrfa Cymru i gael mwy o wybodaeth.

Mae Workways+ Ceredigion yn cynnig hyfforddiant, cymwysterau, lleoliadau gwirfoddoli, cyfleoedd profiad gwaith â thâl a gwasanaeth mentora personol i helpu pobl i gael eu bywydau yn ôl ar y trywydd iawn.

Ewch i'n tudalen Workways + i gael mwy o wybodaeth.

Cyngor a Chefnogaeth Bellach

Os ydych chi am gysylltu â Chyngor Sir Ceredigion ynghylch y materion uchod, defnyddiwch yr adran Cysylltu â Ni ar frig y dudalen.

Mae swyddogion Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio’n gyson gyda Llywodraeth Cymru i ddarganfod pa gymorth ychwanegol fydd ar gael i fusnesau nad ydyn nhw'n gymwys i gael y gefnogaeth sydd ar gael ar hyn o bryd.

Os ydych am gysylltu â thîm Datblygu Economaidd y Cyngor, e-bostiwch cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.